Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 29 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 14.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Jeff Cuthbert AC Keith Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC Suzy Davies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Daisy Cole, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Graeme Francis, Age Cymru David Pugh, Prime Cymru Hayley Ridge-Evans, Prime Cymru Huw Thomas, Canolfan Byd Gwaith Iwan Williams, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Christopher Warner (Clerc) Claire Morris (Clerc) Rachel Jones (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Sesiwn Friffio ar yr Ymchwiliad (preifat)
1.1 Cyflwynwyd yr ymchwiliad newydd i Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl Dros 50 Oed i’r Aelodau.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwenda Thomas, Dafydd Elis-Thomas a Byron Davies. Dirprwyodd Suzy Davies ar ran Byron Davies am ran o’r cyfarfod.
3 Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
3.1 Cafwyd tystiolaeth gan Iwan Williams a Daisy Cole.
3.2 Cytunodd Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn i anfon awgrymiadau ynghylch sut y gallai cynllun sy’n debyg i gynllun cyfredol Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed gael ei strwythuro a’i gyllido.
4 Canolfan Byd Gwaith
4.1 Cafwyd tystiolaeth gan Huw Thomas.
4.2 Cytunodd y Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
· gwybodaeth bellach ac unrhyw ystadegau ar y cynllun gwarantu cyfweliad.
· Ystadegau ar nifer y bobl dros 50 oed sy’n ymuno/gadael y broses hawlio lwfans ceisio gwaith.
· unrhyw wybodaeth sydd ar gael o ran nifer y sancsiynau DWP/JCP i bobl dros 50 oed
· copi o’r pecyn adnoddau a ddefnyddir gan eu hyfforddwyr gwaith
· edrych i mewn i sefyllfa perchennog busnes bach o ran y system fudd-daliadau os yw’r perchennog hwnnw yn penderfynu cau’r busnes ei hun os yw’r busnes yn methu.
5 Cynghrair Henoed Cymru ac Age Cymru
5.1 Cafwyd tystiolaeth gan Graeme Francis, David Pugh a Hayley Ridge-Evans.
5.2 Cytunodd Prime Cymru i anfon awgrymiadau ynghylch sut y gallai cynllun sy’n debyg i gynllun cyfredol Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed gael ei strwythuro a’i gyllido.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7 Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.
8 Papurau i'w nodi
8.1 Ymchwiliad Dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM): Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’r llythyr gan y Cadeirydd ar 27 Tachwedd.
8.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.